GWOBRAU 2011 - 2012

Gair am y Gwobrau

Rydym ni wedi gwybod ers cyn cof bod gan Gymru rai o gynhyrchion gorau’r byd ond ers 2002, fe ddaeth hon yn ffaith swyddogol pan gynhaliwyd Gwobrau Cymru y Gwir Flas am y tro cyntaf erioed.

Daeth 150 o geisiadau i law gyda 36 enillydd yn ystod y flwyddyn gyntaf - y don gyntaf o gynhyrchwyr, gweithgynhyrchwyr a pherchenogion bwytai i dderbyn stamp y Gwir Flas sy’n nodi dilysrwydd a gwreiddioldeb, purdeb a safon.

Wyth mlynedd yn ddiweddarach, mae miloedd o geisiadau wedi arwain at gannoedd o enillwyr. Mae’r enillwyr yn eu tro wedi mynd ymlaen i adeiladu ar eu llwyddiant i gyflenwi eu cynnyrch i rai o fanwerthwyr mwyaf y DU gan roi gwir bleser i filiynau o ddefnyddwyr yng Nghymru, y DU a thros y môr.

Mae’r Gwobrau yn parhau i adael eu marc - y llynedd, fe aeth dros hanner y cwmnïau bwyd a diod sy’n bodoli yng Nghymru ati i enwebu cynnyrch am Wobrau 2010 - 2011. Dyfarnwyd Gwobrau Aur i gwmni Caws Teifi ac i ddraenogyn môr Bae Ceredigion. Roedd rhai o fwytai a marchnadoedd ffermwyr gorau Cymru hefyd yn cael eu gwobrwyo.