BWYD A GWYLIAU

Lledaenu’r gair…

Gan fod gennym ni rai o gynhyrchwyr bwyd a diod gorau’r byd, heb sôn am restr sy’n prysur dyfu o fwytai a safleoedd bwyta cyffrous, rydym yn teimlo gwir angen i ddweud wrth bawb amdanynt. Mae tîm y Gwir Flas yn ymweld â nifer o sioeau masnach a gwyliau bwyd i ddefnyddwyr bob blwyddyn gan siarad gyda chynhyrchwyr a chan ymwneud yn uniongyrchol â phrynwyr a siopwyr.

Mae rhai o’n cynhyrchwyr gorau wrthi’n brysur yn lledaenu’r gair hefyd ac yn rhoi cyfle i bobl flasu a phrynu bwyd lleol, gan helpu’r economi wledig ar yr un pryd â mwynhau bwyd a diod sy’n ffres ac o’r safon gorau. Yma, fe welwch restr o amrywiol farchnadoedd ffermwyr, gwyliau bwyd a sioeau masnach yng Nghymru a’r DU.