Cafodd enwau’r enillwyr eu cyhoeddi neithiwr (nos Iau) yn uchafbwynt calendr coginiol Cymru - 10fed pen-blwydd Gwobrau Bwyd a Diod Cymru y Gwir Flas.
Roedd seremoni Gwobrau Bwyd a Diod Cymru y Gwir Flas 2011-12, a gynhaliwyd yn Venue Cymru yn Llandudno, yn arddangos a gwobrwyo rhai o’r cynnyrch bwyd a diod gorau a mwyaf arloesol o Gymru, a chydnabod rhagoriaeth yn y sectorau manwerthu a lletygarwch.
Dros y degawd diwethaf mae miloedd o gwmnïau wedi cystadlu yng ngwobrau Llywodraeth Cymru a ddenodd 1,017 o geisiadau gan 366 cwmni mawr a bach eleni.
Dywedodd Alun Davies, Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd a Physgodfeydd, i safon y ceisiadau yn y Gwobrau, sydd â beirniaid annibynnol, wneud argraff fawr arno.
“Am ddegawd mae Gwobrau Bwyd a Diod Cymru y Gwir Flas wedi bod ar flaen y gad wrth hyrwyddo’r ystod ragorol o gynnyrch Cymru, ac mae’n cadarnhau’r bartneriaeth bwysig rhwng y diwydiant bwyd a Llywodraeth Cymru.
“Nid oes amheuaeth fod gan Gymru dalent am gynhyrchu bwyd a diod blasus o’r radd flaenaf. Mae bwyd yn rhan bwysig o ffordd o fyw Cymru ac mae ganddo gysylltiad annatod gyda’n diwylliant; yn wir mae’n rhan hanfodol o’n DNA.
“Mae sgil a brwdfrydedd cynhyrchwyr wedi rhoi ein cynnyrch ar lwyfan y byd ac mae Gwobrau’r Gwir Flas yn rhoi llwyfan hyrwyddo pwysig i fusnesau sefydledig.
“Mae bod yn enillydd y Gwir Flas yn galluogi cynrychiolwyr i ddal llygad defnyddwyr a chystadlu yn y farchnad fyd-eang; ac rwy’n hynod falch i longyfarch pawb a dderbyniodd Wobrau eleni.”
Cynhaliwyd y Gwobrau 10fed pen-blwydd mewn cydweithrediad â’r llaethdy organig blaenllaw Rachel’s, sydd â’i bencadlys yn Aberystwyth.
Enwyd Rachel Rowlands, a sefydlodd y cwmni gyda’i gŵr Gareth, yn Llysgennad y Gwir Flas yn y Gwobrau cyntaf.
Meddai Rachel Rowlands, “Mae Gwobrau’r Gwir Flas yn agos iawn at ein calonnau, a gwelsom hwy’n tyfu i fod ymysg y gwobrau bwyd a diod uchaf eu bri yn y Deyrnas Unedig; ac rwy’n dymuno pob llwyddiant yn y dyfodol i enillwyr eleni.
“Bu Rachel’s ei hunan yn ffodus i dderbyn nifer o wobrau dros y blynyddoedd, ac mae bod yn enillydd y Gwir Flas wedi bod yn ddangosydd pwysig o ansawdd i’n cwsmeriaid.
“Agwedd bwysig o’r gwobrau yw bod Cymru dros y blynyddoedd wedi ymdrechu i greu brand y gall manwerthwyr yn ogystal â defnyddwyr ei adnabod. Mae’n dangos hefyd ein bod ni yng Nghymru yn falch o’r hyn yr ydym wedi’i gyflawni, ac yn edrych ymlaen at adeiladu ar y llwyddiant hwnnw.”
Ymysg prif wobrau’r noswaith oedd tlws Cynnyrch y Flwyddyn, a aeth i Emma a Mark Baravelli am eu Marmaled Lemon gyda Brecon Welsh Gin.
Derbyniodd y cwpl, sy’n rhedeg The Little Deli yn Llandudno, dlysau hefyd am eu Caramel Fanila a Halen a’u Hufen Iâ Rhesog Mafon.
Pencampwr Gwir Flas 2011-12 yw Conrad Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr storau Eurospar yn Nolgellau a Blaenau Ffestiniog a stôr Spar ym Mhwllheli. Y bumed genhedlaeth o’i deulu i ymwneud â’r diwydiant manwerthu, mae Conrad yn gefnogwr brwd o gynnyrch lleol a chynnyrch Cymreig ac mae’n stocio dewis eang o gynnyrch yn ei stôr.
Mae Gwobrau eleni hefyd yn cyd-daro gyda dathliad bwyd a diod blynyddol Gogledd Cymru, Gwledd Conwy (22/23 Hydref) a gynhelir yng Nghonwy. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn www.conwyfeast.co.uk.