Cyhoeddwyd y rhestr fer o’r cystadleuwyr yn rownd derfynol Pobl a Lleoedd 10fed Gwobrau Blynyddol Bwyd a Diod Cymru y Gwir Flas.
Caiff y gwobrau blynyddol eu trefnu gan Lywodraeth Cymru, ac fe’u cynhelir mewn cysylltiad gyda llaethdy organig blaenllaw Rachel’s. Mae’r gwobrau’n dathlu a rhoi sylw i ragoriaeth yn y sectorau bwyd, diod a lletygarwch ac yn creu ymwybyddiaeth o ansawdd a dewis cynnyrch a gwasanaethau yng Nghymru.
Eleni cynhelir y seremoni wobrwyo yng Ngogledd Cymru am y tro cyntaf, yn Venue Cymru yn Llandudno ddydd Iau 20 Hydref, pan gyhoeddir enwau enillwyr y categorïau.
Derbyniwyd cyfanswm o 1,017 o gynigion gan 366 cwmni eleni yn yr holl gystadleuaeth, yn cynnwys y rhai ar restr fer categori ‘Pobl a Lleoedd’ (gweler y nodiadau i’r golygydd).
Ymysg y categorïau terfynol ar y rhestr fer mae: Gwobr Cymru am Gyflawni trwy Allforio, Manwerthwr y Flwyddyn, Prynu’n Lleol, Mynd am Bryd yng Nghymru, a Chyfraniad at Ddatblygu Cynaliadwy.
Dywedodd Alun Davies, Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd a Physgodfeydd: “Mae’r categorïau ‘Pobl a Lleoedd’ yma’n cydnabod cyfraniad gwerthfawr unigolion a busnesau i sectorau bwyd, diod, lletygarwch a manwerthu Cymru.
“Mae ymdrechion y rhai sy’n coginio, gwerthu a hyrwyddo bwyd a diod ansawdd uchel o Gymru - a’r amgylchedd y cânt eu cynhyrchu ynddo - yn rhan bwysig o ethos brand y Gwir Flas.”
Lansiwyd Gwobrau Bwyd a Diod Cymru y Gwir Flas ddegawd yn ôl i roi cydnabyddiaeth gyhoeddus i gynhyrchwyr sy’n rhagori yn eu sectorau ac i godi proffil bwyd a diod ledled Cymru a thu hwnt.
Mae 16 categori* (gweler nodiadau i’r golygydd) yn y Gwobrau sydd â beirniaid annibynnol ac sy’n anelu i ddarparu ar gyfer pob maes o’r sectorau cynhyrchu bwyd a diod, manwerthu a lletygarwch.
Mae’r Gwobrau wedi tyfu mewn poblogrwydd a statws, a chânt eu cydnabod gan y diwydiant a defnyddwyr fel ei gilydd. Mae ganddynt ran ganolog yn strategaeth bwyd Llywodraeth Cymru ‘Bwyd i Gymru, Bwyd o Gymru 2010-2020’.
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Rachel Coles, Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus Is-adran Datblygu Bwyd, Pysgodfeydd a’r Farchnad Llywodraeth Cymru ar 03000 622201 neu 07800 864157 neu e-bost rachel.coles@wales.gsi.gov.uk
