BEIRNIAID YN CNOI CIL AR Y RHESTR DERFYNOL AR GYFER GWOBRAU BWYD A DIOD CYMRU Y GWIR FLAS

5th July by True Taste

Maent wedi sipian, cnoi a chrensian eu ffordd drwy gannoedd o gynnyrch bwyd a diod Cymru, ac mae gwaith y beirniaid ar gyfer 10fed gwobrau blynyddol Bwyd a Diod Cymru y Gwir Flas bellach wedi’i wneud – a chaiff eu dewisiadau terfynol eu cadw’n hollol gyfrinachol am nawr.

Dros y degawd diwethaf mae’r Gwobrau - a gaiff eu trefnu gan Lywodraeth Cymru - wedi amlygu rhagoriaeth yn y sectorau bwyd, diod a lletygarwch, gan greu ymwybyddiaeth o ansawdd ac amrediad cynnyrch a gwasanaethau yng Nghymru.
Derbyniwyd 1,017 o geisiadau gan 366 cwmni ar gyfer cystadleuaeth eleni, a chynhaliwyd sesiynau beirniadu dechreuol yng Ngholeg Sir Benfro, Coleg Llandrillo Cymru ac UWIC yng Nghaerdydd.
Detholwyd 208 cynnyrch o’u plith, a bu rownd derfynol y beirniadu blas yn Neuadd Sgeti, Abertawe pan benderfynodd y beirniaid annibynnol pwy ddylai dderbyn y gwobrau Aur, Arian ac Efydd. Cynhaliodd y beirniaid hefyd gylch cyntaf beirniadu’r categoriau pobl a lleoedd.

Roedd y beirniaid yn cynnwys y perchennog bwyty, ysgrifennwr ar fwyd a’r darlledwr Simon Wright, Pencampwr presennol y Gwir Flas.

Dywedodd “Bu’n dasg anodd, ond hyfryd iawn, dewis rhwng yr amrywiaeth o gynnyrch. Roedd safon y cynigion yn uchel tu hwnt, ac felly hefyd y dewis ysbrydoledig o fwydydd a diodydd a gynigiwyd i’r beirniaid.

“Mae’r GwirFlas yn adlewyrchu’r diwylliant bwyd cynyddol yng Nghymru, sydd ei hunan wedi gweld newid sylweddol iawn dros y degawd diwethaf.

“Mae’n bwysig ein bod yn parhau i roi sylw i’r cynnyrch safon uchel sydd gennym ar garreg ein drws ac yn cysylltu gyda’r cyhoedd - yn arbennig bobl ifanc - i ennyn diddordeb a’u cael i goginio a bwyta’r bwydydd a’r diodydd gwych sydd gennym o’n cwmpas.”

Caiff canlyniadau trafodaethau’r beirniaid eu cyhoeddi yn y seremoni wobrwyo a gynhelir ddydd Iau 20 Hydref yn Venue Cymru yn Llandudno, y tro cyntaf i’r seremoni gael ei chynnal yng ngogledd Cymru.

Lansiwyd Gwobrau Bwyd a Diod Cymru y Gwir Flas i roi cydnabyddiaeth gyhoeddus i gynhyrchwyr sy’n rhagori yn eu sectorau a chodi proffil bwydydd a diodydd Cymru ym mhob rhan o Gymru a thu hwnt.

Mae 16 categori* (gweler y nodiadau i’r golygydd) yn y Gwobrau sy’n anelu i ddarparu ar gyfer pob sector cynhyrchu a manwerthu bwydydd a diodydd a lletygarwch.

Tyfodd y Gwobrau mewn poblogrwydd a statws. Cânt eu cydnabod gan y diwydiant yn ogystal â defnyddwyr, ac mae ganddynt ran ganolog yn strategaeth fwyd Llywodraeth Cymru ‘Bwyd i Gymru. Bwyd o Gymru 2010-2020’.

Cynhelir Gwobrau eleni mewn cysylltiad gyda Rachel’s Dairy o Aberystwyth, prif laethdy organig Prydain.

Cyhoeddwyd fis diwethaf mai Rachel’s fydd prif noddwr y digwyddiad. Mae rhestr gynyddol noddwyr 2011-12 i’w gweld yn: http://www.truetaste.tv/index.php/awards-2010-2011/sponsors/