Caiff 10fed Gwobrau Blynyddol Bwyd a Diod Cymru y Gwir Flas eu cynnal mewn cysylltiad gyda llaethdy organig blaenllaw Rachel’s.
Dros y degawd diwethaf mae’r Gwobrau, a gaiff eu rheoli gan Lywodraeth Cymru wedi rhoi sylw i ragoriaeth yn y sectorau bwyd, diod a lletygarwch, gan greu ymwybyddiaeth o ansawdd ac amrywiaeth cynnyrch a gwasanaethau Cymru.
Cynhelir Gwobrau eleni ddydd Iau 20 Hydref yn Venue Cymru yn Llandudno. Hwn fydd y tro cyntaf i’r seremoni gael ei chynnal yng Ngogledd Cymru.
Wrth gyhoeddi mai Rachel’s Dairy o Aberystwyth yw prif noddwr eleni, dywedodd Alun Davies, Dirprwy Weinidog dros Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd, “Mae Rachel yn gwmni gwirioneddol gynhenid gyda phroffil a chwsmeriaid ar draws y Deyrnas Unedig. Mae’n newyddion gwych fod brand mor adnabyddus yn ymuno â ni yn y flwyddyn ben-blwydd yma.
“Mae cystadlu brwd yng ngwobrau Bwyd a Diod Cymru y Gwir Flas ac maent wedi helpu i roi nifer fawr o gynhyrchwyr ar y map. Bu ymateb gwych eleni eto gyda 1,017 o geisiadau gan 366 cwmni.”
Rachel oedd llaethdy organig ardystiedig cyntaf Prydain ac mae’n cynnig amrywiaeth o gynnyrch organig yn iogwrt, llaeth, pwdinau, hufen a crème fraîche.
Dywedodd Steve Clarke, Rheolwr Gyfarwyddwr Rachel’s, “Rydym yn hynod falch i fod yn brif noddwyr Gwobrau Bwyd a Diod Cymru y Gwir Flas 2011-12, a hon yn ddegfed pen-blwydd y gwobrau.
“Rydym yn ddiolchgar iawn i fod wedi cefnogi Cymru y Gwir Flas ers ei sefydlu ac i fod yn gysylltiedig gyda digwyddiad sydd nid yn unig wedi tyfu mewn statws a phoblogrwydd ond a ddaeth i sefyll dros ragoriaeth yn niwydiant bwyd Cymru.”
Bu cysylltiad agos rhwng Gareth a Rachel Rowlands, sefydlwyr Rachel, â’r gystadleuaeth o’r cychwyn cyntaf a Rachel oedd y cyntaf i ennill teitl Llysgennad y Gwir Flas.
Meddai Rachel, “Mae Gwobrau’r Gwir Flas yn agos iawn at ein calon. Gwelsom hwy’n tyfu i ddod yn rhai o’r gwobrau bwyd a diod uchaf eu bri ym Mhrydain.
“Dros y blynyddoedd bu Rachel’s yn ddigon ffodus i dderbyn nifer o wobrau, ac rydym yn hynod falch fod y cwmni yn cadw ei gysylltiad gyda’r gystadleuaeth sy’n gwobrwyo ac yn cydnabod safon ac amrywiaeth wych bwyd a diod Cymru.”
Lansiwyd Gwobrau Bwyd a Diod Cymru y Gwir Flas ddegawd yn ôl i roi cydnabyddiaeth gyhoeddus i gynhyrchwyr sy’n rhagori yn eu sectorau ac i godi proffil bwyd a diod Cymru ledled Cymru a thu hwnt.
Mae 16 categori (gweler y nodiadau i’r golygydd) yn y gwobrau, a gaiff eu cloriannu gan feirniaid annibynnol sy’n anelu i gwmpasu pob rhan o’r sectorau cynhyrchu bwyd a diod, manwerthu a lletygarwch.
Tyfodd y Gwobrau mewn poblogrwydd a statws a chânt eu cydnabod gan y diwydiant a defnyddwyr fel ei gilydd, ac mae ganddynt ran ganolog yn strategaeth bwyd Llywodraeth Cymru ‘Bwyd i Gymru, Bwyd o Gymru 2010-2020’.
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Rachel Coles, Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus Is-adran Datblygu Bwyd, Pysgodfeydd a’r Farchnad Llywodraeth Cymru ar 03000 622201 neu 07800 864157 neu e-bost rachel.coles@wales.gsi.gov.uk
