AUR - Blas ar Fwyd
Ni fyddai ennill y wobr hon wedi gallu digwydd ar adeg gwell i’r gwr hwn, gyda’i gwmni adnabyddus yn dathlu 21 mlwydd oed eleni.
Mae Deiniol ap Dafydd wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr at ddiwydiant bwyd a diod Cymru.
Cafodd y delicatessen yn Llanrwst ei sefydlu yn 1988 gan Deiniol a’i wraig Chandra, ac ers hynny, mae’r siop wedi bod yn noddfa arbennig i fwydydd a gwinoedd o safon, o Gymru ac o bedwar ban byd. Ers hynny, mae’r siop, y bwyty a’r gwasanaeth arwlyo wedi datblygu i fod yn un o’r gorau yn y wlad – yn ateb gofynion y cwsmer, ynghyd â gofynion manwerthwyr yng Nghymru. Mae hefyd yn cyflogi 40 o staff. Mae erbyn hyn y deicatesen fwyaf yng Nghymru a Lloegr y tu allan i Lundain.
Mae’r siop yn llawn amrywiaeth hynod o gynhwysion sylfaenol, ynghyd â chawsiau Cymreig. Mae’r rhan fwyaf o’r cynnyrch eraill yn cael ei baratoi gan Blas ar Fwyd, gan gynnwys jamiau, piclau, paté, saladau, cacennau – mae’r rhestr yn ddiddiwedd.
Mae Deiniol yn gredwr cryf mewn bwydydd lleol Cymreig, ac o’r gred bod yn rhaid cael mwy o gydweithredu ar draws holl sbectrwm y diwydiant bwyd a diod i gynnwys manwerthu, twristiaeth a’r sector cyhoeddus hollbwysig.
Diolch i lawer o’i waith caled a’i benderfyniad, mae pobl nawr yn adnabod Cymru fel gwlad sydd â’r ysbrydoliaeth a’r hyder i gynhyrchu amrywiaeth o gynnyrch bwyd o’r safon uchaf, nid dim ond un neu ddau o adnoddau craidd.
Cyswllt - Blas ar Fwyd
01492 640215
www.blasarfwyd.com
AUR
Deg mlynedd yn ôl, dechreuodd cwmni bychan gyflenwi halen môr i gigydd lleol ym Mhorthaethwy, Ynys Môn. Erbyn heddiw, yn parhau â’r un safon uchel hwnnw, mae Halen Môn i’w weld ar silffoedd Marks and Spencer, Waitrose a Harvey Nichols, ac yn dal llygad cogyddion ac unrhywun sy’n caru bwyd ym mhob cwr o’r byd.
Tu allan i’r DU, mae Halen Môn yn cyflenwi’u cynnyrch i 22 o wledydd, a nawr, mae cogyddion yn wyth o 50 prif fwytai’r byd yn ei ddefnyddio. Mae allforio yn cyfri am dros hanner eu busnes bellach, ac mae’r cwmni wedi dod yn gyfforddus â chyfathrebu mewn amrywiaeth o ieithoedd, unrhywle yn y byd. Yr Eidal sydd ar frig y rhestr allforio a Sbaen yn ail - sy’n werth ei nodi’n arbennig gan fod Sbaen yn un o allforwyr mwyaf y byd o halen môr.
Mae Cwmni Halen Môn a gaiff ei redeg gan David ac Alison Lea-Wilson yn cynhyrchu halen môr pur gwyn ac amrywiaeth o fathau halen gyda sbeis a blas. Mae nhw erbyn hyn wedi mentro â halen môr o flas gwahanol hefyd – halen wedi’i fygu dros dderw, halen fanila, halen sbeis organig, a halen seleri organig, ac mae’r rhain yn profi i fod yr un mor llwyddiannus.
Mae eu cymysgedd unigryw o deulu, awyrgylch, crefft a thechnoleg wedi profi i fod yn eithriadol o lwyddiannus ar bob lefel, o’r cynhyrchiad i’r mwynhad, ac mae’r llwyddiant cynyddol wrth allforio’r cynnyrch i amrywiaeth o farchnadoedd tramor yn cael ei gydnabod, diolch i wobr Gwir Flas.
PMA: prisiau’n amrywio o £2.95/100g ar gyfer halen môr pur i £5.35/100g am halen môr fanila
Cyswllt - David ac Alison Lea-Wilson
01248 430871
www.seasalt.co.uk
alison@seasalt.co.uk
Stocwyr – Ar gael yng Nghymru, DU ac yn rhyngwladol.
AUR – Cyngor Sir Benfro
Wedi’i sefydlu ers deg mlynedd bellach, mae Wythnos Bysgod Sir Benfro yn denu miloedd o bobl i’r sir o bob cwr o’r wlad. Wedi’i threfnu gan Gyngor Sir Benfro, mae’r wyl hefyd yn dathlu’i harfordiroedd hyfryd a’i thraethau, y moroedd glân, pysgota gwych a threftadaeth y diwydiant pysgod yn ogystal â llwyddiant pysgod ffres y Sir Mae’r ?yl, sy’n cael ei chynnal ddiwedd mis Mehefin, yn cynnwys dros 200 o ddigwyddiadau i bobl o bob oed, ac yn cwmpasu tua 250 o fusnesau lleol. Yn ystod yr wythnos, mae amrywiaeth o ddigwyddiadau ar hyd a lled y sir gan gynnwys barbiciws mewn sawl harbwr, tripiau pysgota a choginio’r ddalfa. Ac i’r rhai sy’n mwynhau coginio bwyd y môr, cynhelir dosbarthiadau coginio.
Yn ôl rhai o’r trefnwyr, mae’r wythnos bysgod yn gyfle gwych i ddathlu safon bwyd y môr a’r arfordir, ynghyd â rhoi hwb sylweddol i economi’r sir. Mae busensau lleol wedi cofnodi 70% o d?f mewn busnes dros gyfnod yr ?yl Bysgod.
Mae’r wobr yn rhoi cydnabyddiaeth unigryw i Wŷl Byrgod Sir Benfro, sy’n rhan o Gyngor Sir Benfro yn hyrwyddo’r ardal, ac yn ei thro, Cymru, fel cyrchfan twrisiaeth bwyd; ei chynhyrchwyr a’i thai bwyta fel lle o safon i ymwelwyr, yn ogystal â sylfaen i adeiladu ymhellach ar eu llwyddiant i’r dyfodol.
Cyswllt - Kate Morgan
01437 776168
www.pembrokeshirefishweek.co.uk /
www.pembrokeshire.gov.uk/foodanddrink /
www.visitpembrokeshire.com
kate.morgan@pembrokeshire.gov.uk
AUR – Marchnad Glanyrafon, Marchnad Bwyd Go Iawn y Rhâth a Marchnad Ffermwyr Casnewydd
Mae marchnadoedd ffermwyr i’w disgwyl mewn trefi a phentrefi gweldig, ble mae galw mawr am gynnyrch lleol. Ond nid ar chwarae bach mae llwyddo mewn trefnu marchnadoedd rheolaidd mewn dau o ddinasoedd mwyaf De Cymru; a dyma beth mae Riverside Community Markets Association wedi’i wneud.
Sefydlwyd Cymdeithas Marchnadoedd Cymunedol Glanyrafon gan Stephen Garrett i sefydlu marchnadoedd stryd ledled Caerdydd ar foreau Sadwrn a Sul. Y syniad yw dod â chynhyrchwyr a phrynwyr ynghyd, cysyniad a ddaeth yn llwyddiannus iawn. Mae hyd at 50 stondinwyr yn bresennol bob wythnos ym Marchnad Bwyd Go Iawn Glanyrafon ac mae’r dewis helaeth o gynnyrch yn denu mwy na 1,000 o gwsmeriaid bob dydd Sul. Ac i brofi p?er eu llwyddiant, yn ôl papur newydd y Times, mae marchnad Glanyrafon ymysg y deuddeg gorau ym Mhrydain.
Mae’r cysyniad wedi agor drysau i lawer o fusnesau bach ac mae wedi profi’n fodel o farchnad gynaliadwy gyda photensial i’w weithredu ledled Cymru. Mae’r trefnwyr yn galw ar gwsmeriaid i gefnogi eu heconomi lleol tra’n gwarchod yr amgylchedd – ynghyd ag arbed arian; mae’r RCMA yn ymroddedig i gadw bwyd lleol mor fforddiadwy ag sy’n bosib.
Mae’r RCMA wedi llwyddo i gynyddu’r lefel gyflenwi o gynnyrch lleol dros y 10 mlynedd diwethaf, a hynny yng nghanol manwerthwyr cystadleuol iawn, ac maent yn parhau i ddenu cwsmeriaid a chynhyrchwyr a hynny mewn cyfnod sy’n ariannol anodd i’r naill a’r llall.
Cyswllt - Stephen Garrett
02920 190036
www.riversidemarket.org.uk
mail@riversidemarket.org.uk
Ar gael - Glanyrafon, Fitzhamon Embankment : Sul 10-2pm
Rhâth, Mackintosh Sports Club : Sad 9.30 – 1pm
Casnewydd : 2il a 4ydd dydd Gwener, 10 – 2pm
AUR
Yn weithredwr siopau cyfleus annibynnol mwyaf y DU, mae gan Tates Spar 210 o siopau ar draws canolbarth Lloegr ac yng ngogledd a chanolbarth Cymru.
Mae’r siop aml-gangen hwn ar agor rhwng 7yb ac 11yp, saith diwrnod yr wythnos, gyda rhai ar agor 24 awr y dydd. Mae’n cynnig amrywiaeth eang o nwyddau a gwasanaethau i’r gymuned leol.
Gwobrwywyd Tates Spar am ei ymrwymiad llwyr a’i gyflwyniad cyson ar gynnyrch lleol ac angerdd o fewn trefn Spar. Dros y 15 mlynedd ddiwethaf mae’r rheolwr rhanbarthol Owen Davies wedi llwyddo i gynyddu’r dewis o gynnyrch o Gymru sydd ar gael yn siopau Tates Spar o ychydig dros 1500 i dros 2,000.
Cyswllt - Owen Davies (Rheolwr Rhanbarthol)
01902 366 066
owen.davies@afblakemore.com
AUR
Agorodd Siop Fferm Glasfryn yn 2001 ac mae’n darparu gwasanaeth saith diwrnod yr wythnos yn gwerthu cynnyrch lleol safon uchel - yn cynnwys Cig Eidion Du Cymreig y Stad, cig oen Ll?n, gêm, porc, cig moch a chynnyrch Masnach Deg a gyrchir gan ffermwyr lleol, cynhyrchwyr a chyflenwyr - yn uniongyrchol i’w gwsmeriaid lleol. Dros yr wyth mlynedd diwethaf, mae’r cwmni wedi datblygu, gan ennill amrywiaeth o wobrau.
Wedi’i leoli ym Mhen Ll?n, mae Fferm Glasfryn Fawr yn cyflenwi’r cig a gaiff ei werthu yn y siop, ac a gaiff ei ddefnyddio ym mhrydiau parod y fferm. Caiff helgig Ystâd Glasfryn hefyd ei fagu’n wyllt yno heb unrhyw ddeunydd artiffisial, gan gynnwys ffesant, hwyaden, sguthan a chwningen. Maent hefyd yn cynnig amrywiaeth trawiadol o ffrwythau hyfryd, sy’n cael eu rhewi’n gyflym er mwyn cadw’r maeth a’r blas i gyd i mewn; mae modd helpu’ch hunain i’r rhain yn y siop.
Yn ogystal â’r uchod, mae’r siop hefyd yn gwerthu prydau parod, pwdinau, jamiau a chyffeithiau, siocledi a bisgedi moethus wedi’u gwneud â llaw yng Nghymru a mwy! Mae hefyd lle i gynnyrch organig a chynnyrch Masnach Deg yn ogystal â dewis o gynnyrch ‘Heb’ (heb gluten, heb wenith a heb siwgr) er eu silffoedd.
Mae’r amrywiaeth o fwyd sydd ar gael yn ddi-ddiwedd. Ond, er yr amrywiaeth eang, mae’r cwmni yn ymfalchïo eu bod yn gwerthu cynnyrch lleol a Chymreig o ansawdd uchel gan ddefnyddio’r cynhwysion gorau. Mae Siop Fferm Glasfryn yn enghraifft perffaith o fenter sy’n cydweithio ag eraill yn y gadwyn i gynyddu a gwella’r cynnyrch sydd ar gael, gan ganolbwyntio ar eu milltir sgwar.
Cyswllt - Jonathan Williams-Ellis
01766 810 044
www.siop-glasfryn.com
siopfferm@glasfryn.co.uk
AUR - Enillydd Cymru gyfan a rhanbarth y De Ddwyrain
Wedi’i leoli nepell o’r Fenni, mae’r parlwr te hwn wedi llwyddo i ddal gafael ar ei rhinweddau gwreiddiol. Er gwaetha’r cyfleusterau newydd, modern, mae Parlwr Te Gentle Jane yn cadw ei naws traddodiadol, gwreiddiol.
Mae’r adeilad, sydd wedi’i enwi ar ôl merch y cyn-berchnogion, yn radd II restredig, wedi’i leoli ym mhentref hynafol Grysmwnt, sydd ar y ffin. Yn ogytsal â chynnig amrywiaeth o de arbenigol a choffi gwych, mae’r parlwr yn defnyddio cynnyrch lleol a thymhorol mor aml â phosib, ac mae’r bwyd cartref sy’n cael ei gynnig yno i’w eiddigeddu– er, peidiwch a disgwyl asparagws ym mis Hydref, a mefus yn mis Rhagfyr, neu fe fyddwch yn siomedig – mae’r fwydlen yn hollol ddibynnol ar yr cynnyrch sydd ar gael ar y pryd.
Ynghyd â meddu ar wobr ‘Green Dragon’ am eu gwaith yn gwarchod yr amgylchedd, mae Linda a Witek, y perchnogion, hefyd yn cynnig gwely a brecwast. Mae’r brecwast, unwaith eto, yn cynnwys bwydydd lleol, gyda bara cartref Gentle Jane yn sylfaen gwych i’r jams sy’n deillio o’r un gegin.
Nid dim ond y bwydydd lleol sy’n cael eu hyrwyddo yno; mae hefyd amrywiaeth o gelf a chrefft lleol, sy’n cynnwys tecstiliau, gemwaith a mêl. Parlwr te o safon uchel, sy’n rhagori o ran paratoi, gweini a hyrwyddo bwydydd a diodydd o Gymru.
Cyswllt - 01981 241655
www.gentlejane.co.uk
gentlejane@mac.com
AUR – Enillydd Cymru gyfan a rhanbarth y De Ddwyrain
Wyth llofft moethus, bwyty cyfforddus a seren Michelin am y drydedd flwyddyn – nid yw’n syndod fod y Crown at Whitebrook ar restr Gwir Flas 2009.
Nepell 5 milltir o Drefynwy yn nyffryn Gwy, mae’r bwyty hwn wedi’i leoli mewn 5 acer o erddi tawel, prydferth, ac wedi bod yn rhan o ddiwydiant bwyta Cymru ers 30 mlynedd bellach. Cafodd rhannau cynnar yr adeilad eu hadeiladu rhwng 1670 a 1707. Yn 1973, fe gafodd ei adfer a’i fodernediddio, gan gadw’r llety gwreiddiol fel bwyty a lolfa/bar, cyn adeiladu estyniad er mwyn cynnig llety newydd. Ac mae’r ystafelloedd yma wedi cael enwau Cymraeg, er enghraifft, Myfanwy a Bryn.
Nid dim ond yr adeilad sydd o safon uchel – mae’r prif gogydd, James Sommerin, wedi bod yn gweithio yn y bwyty ers blynyddoedd bellach, gan ddefnyddio dim ond y gorau o fwydydd lleol a’u cyfuno â syniadaeth Ffrangeg clasurol. Mae safon y cynhwysion a ddefnyddir ynghyd â chywirdeb y coginio, yn cynnig pryd o fwyd sydd werth bob ceiniog.
Wedi ennill y wobr hon, ynghyd â sicrhau’r seren glodfawr unwaith yn rhagor, nid oes dim ond llwyddiant ar y gweill i’r bwyty ag ystafelloedd hwn.
Cyswllt - 01600 860254
www.crownatwhitebrook.co.uk
info@crownatwhitebrook.co.uk
AUR
Gyda’r we yn chwarae rhan fawr yn ein bywydau bellach, mae prynu a gwerthu ar-lein yn hollol naturiol i ni. Ond mae un cwmni cydweithredol wedi mynd gam ymhellach ac yn cynnig gwasanaeth ar-lein sy’n canolbwyntio ar werthu cynnyrch lleol o safon uchel.
Cafodd Cynnyrch Sir Benfro Direct ei lawnsio’n gynharach yn y flwyddyn gan griw o berchnogion busnesau bwyd lleol. Mae’r gwasanaeth yn cantiatau i unrhywun yn y Sir archebu cynnyrch lleol ar y we, sydd yna’n cael ei ddosbarthu i’r ty, gweithle, ysgol neu unrhyw sefydliad arall sy’n archebu. Mae’r wefan nawr yn cynnig cynnyrch 55 o gynhyrchwyr bwyd lleol yng Ngorllewin Cymru, - dros 2,000 o gynnyrch gwahanol, yn amrywio o gig i bysgod, i lysiau, bara, cacennau, cawsiau a diodydd. Ac os nad oes gennych fynediad i’r we, mae modd derbyn catalog ac archebu dros y ffôn.
Sefydlwyd y cwmni cydweithredol di-elw hwn gyda chymorth Cyngor Sir Benfro, ac mae wedi’i ariannu gan Gyllid Amaethyddol Ewropeaidd i Ddatblygiad Gwledig. Mae’r prosiect hwn yn ennyn mwy a mwy o ddiddordeb gan gwsmeriaid. Er prysurdeb y byd modern, mae’r prosiect hwn yn ein tynnu nôl i’n gwreiddiau, gan roi’r siawns i bobl brynu cynnyrch ffres yn syth o’r cynhyrchwyr, gan felly amddiffyn y gymuned a’r amgylchedd yn ogystal â rhoi’r cyfle iddyn nhw brofi gwir flas bwyd lleol.
Cyswllt - James Ross
01437 563035
www.pembrokeshireproducedirect.co.uk
james@pembrokeshireproducedirect.co.uk
AUR
Mae llwyddiant y siop fferm hwn wedi bod yn ddiddiwedd ers iddo agor blwyddyn a hanner yn ôl.
Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae Siop Fferm Ystad Penarlâg a’r tîm yn cipio’r wobr hon, am eu gallu gwych i fedru stocio bwydydd o safon uchel iawn – a hynny at ddant pawb.
Mae’r siop hwn, sydd wedi leoli chwe milltir o Gaer, yn tyfu llysiau a ffrwythau tymhorol ar yr 20 acer sydd ganddynt. Mae’r cwmni hefyd yn gwerthu amrywiaeth o fwydydd dros y DU o fecryll Manaw i Haggis, ac yn deall pwysigrwydd tyfu a gwerthu ‘bwyd go-iawn’. Mae parch at yr amgylchfyd a chynaladwyedd yn bwysig yma hefyd, gyda’r siop wedi cael ei godi o goed llarwydd o’r fferm a‘r waliau wedi’u creu o bapur wedi’i ailgylchu. Yn ychwanegol at hyn, mae ganddynt gaffi, cigydd a deli ar leoliad.
Mae’r fenter hon yn profi i Gymru a thu-hwnt yr holl ddanteithion sydd gan y wlad i’w chynnig, a hyn sy’n llwyddo i ddenu’r cwsmeriaid nôl, dro ar ol tro.
Cyswllt - 01244 533442
www.hawardenestate.co.uk
manager@hawardenestate.co.uk