Hafan

Gwobrau Bwyd a Diod Cymru y Gwir Flas

Wel, dyna ni wedi llwyddo i ddathlu Dengmlwyddiant Gwobrau Bwyd a Diod Cymru y Gwir Flas mewn steil, a hynny ar lan y dŵr yn Venue Cymru, Llandudno. Yno, ar 20 Hydref 2011, cynhaliwyd seremoni wobrwyo 2011-12.

Cafodd 119 o enillwyr gwobrau eu cyhoeddi ar y noson – cymrwch gip ar bob un ohonynt yma. Yn eisin ar y gacen, daeth Rachel Rowlands, Pencampwr cyntaf erioed y Gwir Flas, i’r llwyfan i gyflwyno coron 2011-12 i Conrad Davies – dyn sy’n credu’n gryf mewn cynnyrch Cymreig o safon. Ef yw’r manwerthwr annibynnol cyntaf i agor siop Eurospar ym Mhrydain.

Daeth ein cyfeillion o’r cyfryngau i ymuno â ni eto eleni ac fe arweiniodd hyn at raglen awr o hyd y dydd Sadwrn canlynol ar s4c, yn dangos rhannau o’r seremoni yn ogystal â chyfweliadau gyda rhai o’n henillwyr. Gwerth cyfeirio hefyd at y llu o erthyglau cadarnhaol sydd wedi ymddangos yn y wasg ledled Cymru a’r DU ers i’r enillwyr gael eu cyhoeddi.